Yn ymestyn o’r Oesoedd Iâ hyd y dwthwn hwn, mae’r gyfrol feistrolgar hon yn olrhain hanes gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol y rhan honno o’r byd y daethpwyd i’w hadnabod fel Cymru. Dyma’r llyfr sy’n egluro pam, ‘er gwaethaf pawb a phopeth, ‘rydym yma o hyd’.
Yn yr astudiaeth ddiffiniol hon o hanes Cymru, trafodir bryn gaerau cynhanesyddol, olion Rhufeinig, gorchestion a methiannau tywysogion yr Oesoedd Canol, y Diwygiad Protestannaidd, datblygiad Anghydffurfiaeth, y Chwyldro Diwydiannol, twf yr ymdeimlad cenedlaethol, streiciau’r glowyr a’r ymgyrch i ennill ymreolaeth. Yn yr argraffiad newydd hwn, y mae’r stori yn cyrraedd y cyfnod newydd sydd wedi deillio o sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.

Hanes Cymru (A History of Wales in Welsh)
R216,25
| Authors | |
|---|---|
| Language | |
| Publisher | |
| ISBN | 9780141961729 |
| Number Of Pages | |
| File Size | 5.90 mb |
| Format | EPUB |
| Published | 02-01-2014 |



